|
Diweddariad Ocsiwn Cymdeithas Lymphoma 2008 |
Cynhaliwyd ocsiwn ar raglen Meinir Ann o'r 26ain o Chwefror i'r 3ydd o Fawrth 2008 er mwyn codi arian ar gyfer Cymdeithas Lymffoma. Roedd un eitem yn cael ei gynnig bob dydd. Dyma'r eitemau oedd ar gael, ynghyd a'r swm a gafwyd amdanyn nhw: Llwy garu a chwpled gan Mererid Hopwood mewn bocs - £40 Cerdd gomisiwn gan Y Prifardd Tudur Dylan Jones - £60 Cryno ddisg arian Dafydd Iwan - £200 Print o Soar y Mynydd gan Diane Mathias, Henllan - £100 Posteri "Pobol y Cwm'" wedi'u harwyddo gan y cast - £50 Y cyfanswm a godwyd ar gyfer Cymdeithas Lymffoma oedd £450. Diolch o galon i bawb a gymerodd rhan yn yr ocsiwn. Os ydych chi'n dymuno cael mwy o wybodaeth am y gymdeithas, galwch heibio i'r wefan: www.lymphoma.org.uk |
|
Diweddariad Ocsiwn Cymdeithas Lymphoma 2006 |
Cynhaliwyd ocsiwn ar raglen Meinir Ann o'r 4ydd i'r 8fed o Ragfyr 2006 er mwyn codi arian ar gyfer cymdeithas Lymphoma. Roedd un eitem yn cael ei gynnig bob dydd. Dyma'r eitemau oedd ar gael, ynghyd a'r swm a gafwyd amdanyn nhw:
CDd Goreuon Dafydd Iwan wedi ei arwyddo - £30 Llun wedi'i beintio gan yr arlunydd lleol Meirion Jones - £210 Pib Dic Jones - £10 Poster Bryn Terfel wedi'i arwyddo - £25 Llun wedi'i beintio gan yr artist lleol Aneurin Jones - £500
Y cyfanswm a godwyd ar gyfer cymdeithas Lymphoma oedd £775.
Diolch o galon i bawb a gymerodd rhan yn yr ocsiwn.
Os ydych chi'n dymuno cael mwy o wybodaeth am y gymdeithas, galwch heibio i'r wefan: www.lymphoma.org.uk
|
|
|
|
|