Radio Ceredigion FM Tel:(01970) 627 999 Fax: (01970) 627206
Email: admin@ceredigionfm.co.uk



Listen Live!
Baner


Baner
Home Hanes
Hanes

Sefydlwyd Radio Ceredigion fis Rhagfyr 1992, i ddarlledu ar draws Arfordir Gorllewin Cymru ar 103.3, 96.6 a 97.4 FM.

Gorsaf ddwyieithog yw Radio Ceredigion sy'n adlewyrchu anghenion y cymunedau lleol. Fe'i lleolir yn yr Hen Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth, gyda thair stiwdio.

Fis Mawrth 1997, dechreuodd Radio Ceredigion ddarlledu ar 97.4FM, gan gyrraedd Dyffryn Teifi, Gogledd Sir Gaerfyrddin a Gogledd Sir Benfro.

Gorsaf sy'n siarad gyda'i gwrandawyr yw Radio Ceredigion, gan geisio darparu ar gyfer y rhan fwyaf o'r grwpiau oedran am ran o bob diwrnod.

Mae'r rhestr chwarae yn eang ei bryd, gydag amrywiaeth o fathau cerddorol o fyd pop Cymraeg, dawnsio traddodiadol, garej, roc jas, canu gwlad a cherddoriaeth glasurol, gyda newyddion rhanbarthol, y tywydd a'r diweddaraf o newyddion teithio a rhybuddion gorlifo.

Bellach, sefydlodd Radio Ceredigion ei hun yn bendant fel rhan o fywyd bob dydd Gorllewin Cymru, gyda siar 46% o'r gwrandawiad wythnosol.