Radio Ceredigion FM Tel:(01970) 627 999 Fax: (01970) 627206
Email: admin@ceredigionfm.co.uk



Listen Live!
Baner


Baner
Home Cyflwynwyr Amanda Painting
Amanda Painting
Amanda Painting Helo, fy enw i yw Amanda Painting. Pan mae pobl yn gofyn imi beth rwy’n gwneud fel bywoliaeth, rwy’n dweud gyda balchder fy mod i’n ddiddanwraig. Nid fy swydd yn unig ydyw, ond fy mywyd, yr hyn rwy’n ei garu a’r hyn rwy’n angerddol amdano.  Menter eitha newydd i mi yw sioe fy hun ar Radio Ceredigion bob nos Sul am 8 o’r gloch – lot fawr o hwyl! Mae ‘na westeion, cerddoriaeth a sgwrs. Prif bwrpas y rhaglen yw annog pobl i gael yr hyder i ddilyn eu breuddwydion. Cymerodd 46 mlynedd i mi, felly peidiwch byth ag anobeithio.  Mae pobl yn gofyn imi’n aml beth wyf i’n hoffi gwneud orau. Mae’r ateb yn syml – rwyf wrth fy modd â phob dim. Os ydw i’n canu a’n chwarae’r piano gyda chynulleidfa o’m cwmpas, rwy’n diddanu.  Byddai’n gwahodd pobl i sôn am y swydd maen nhw’n ei charu. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, neu’n gwybod am rywun a fyddai â diddordeb, anfonwch e-bost ata i neu Radio Ceredigion. Dyma’r math o berson rwy’n chwilio amdano:Oes gennych chi swydd rydych chi wedi breuddwydio am wneud erioed ond yn credu ei fod yn amhosib? Naethoch chi fynd mewn i’ch gyrfa’n ddamweiniol, ond bellach wrth eich bodd? Neu ydych chi am ddweud wrthon ni pa swydd hoffech chi’i wneud ond yn ansicr sut i fynd o’i gwmpas? Pa bynnag ran o’r byd rydych chi’n darllen hwn, dim ond ar ben arall y ffôn ydyn ni, felly gadewch inni sgwrsio.