| Ceryl Davies |
|
Dros Ginio Rhaglen ysgafn ei naws yng nghwmni Ceryl Davies, yn cynnwys sgwrsio a cherddoriaeth o bob math, ynghyd a manylion am nifer o ddigwyddiadau diddorol o fewn y Gorllewin. Ceir manylion hefyd am yr hyn a ddigwyddodd ym myd hanes i gydfynd a phob diwrnod o'r Llun i'r Gwener. Gosodir cwestiwn cystadleuaeth o bryd i'w gilydd gyda'r enillwyr yn ennill gwobrau teilwng. Yn y slot sgwrs am tua hanner awr wedi unarddeg bob dydd, ceir cwmni cyson rhai fel Arwyn Pierce (Llun) ac Edwina Davies (Gwener). Neilltuir dydd Mawrth ar gyfer cyfweliad yn ymwneud a'r Celfyddydau; dydd Mercher ar gyfer materion Cymunedol, a dydd Iau yn benodol ar gyfer Strategaeth Pobl Hyn o fewn y gymuned. Blaswch awr ysgafn a diddan yng nghwmni Ceryl wrth baratoi am ginio! |


Cyflwynydd 'Dros Ginio' (11.00 - 1.00) o ddydd Llun i ddydd Gwener.