Radio Ceredigion FM Tel:(01970) 627 999 Fax: (01970) 627206
Email: admin@ceredigionfm.co.uk



Listen Live!
Baner


Baner
Home Cyflwynwyr James Southon
James Southon

James

Helo boneddigion a boneddigesau!  Fy enw i yw James Southon a fi sydd â’r fraint o’ch deffro chi bobl hyfryd o 6-9 bob bore’r wythnos, ac o 6-11 bob bore Sadwrn. Felly dyma ychydig o’m cefndir i...Cefais fy ngeni yng Nghaerlyr ar y 26ain o Ebrill 1987 (ac o ganlyniad, rwy’n ffan anferthol o glwb pêl droed Dinas Caerlyr...mae’n jobin anodd, ond ma’n rhaid i rhywun neud e!).Symudais i Gymru pan oeddwn i’n 6 oed a dwli ar y lle. Er fy mod i wedi fy ngheni yng Nghaerlyr, heb os nac oni bai, Cymru yw ‘nghartref i, a dyna lle mae nghalon i. (ychydig yn ystradebol falle, ond mae’n wir.)

Rwyf hefyd wrth fy modd â cherddoriaeth, yn enwedig cerddoriaeth indie.  Ar hyn o bryd, mae’n hoff fandiau’n cynnwys Feeder, Muse, The Subways a Kasabian, sydd hefyd yn cefnogi Dinas Caerlyr!
Mae bod yn gyflwynydd radio wedi fy nghyflwyno i i nifer fawr o ganeuon pop, ac er ei fod yn boenus iawn imi wrando arno ar y cychwyn hyn, erbyn hyn, er mawr cywilydd imi, rwy’n eitha hoffi’r rhan fwyaf ohono, sy’n beth da, mewn gwirionedd.

O ran y pethau dydw i ddim yn eu hoffi, mae ‘na 3 prif beth:

1.Marmite (afiach o beth)

2.Harry Hill (Dim byd personol. Dyw e ddim yn ddoniol. Y cyfan mae’n neud yw hen synau dwl!)

3. Pritt stick (Rhyfedd, wi’n gwbod. Bydd rhaid ichi ofyn imi’n bersonol am y rheswm dros hyn.)

Dyna ni, dyna ichi gyflwyniad byr i’r unigolyn rhyfedd sef fi fy hun.
Felly gwrandewch arna i o 6 o’r gloch o ddydd Llun i ddydd Sadwrn am ychydig o hwyl a sbri.

Gallwn hyd yn oed bod yn ffrindiau ar myspace. Medrwch ddod o hyd imi ar www.myspace.com/southoncomfort neu medrwch anfon ebost at Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. This e-mail address is being protected from spambots, you need JavaScript enabled to view it
i gymryd rhan yn y miri..

Diolch am ddarllen hwn. Cymerwch ofal.

Tŵdls!

James Southon.