Enw Llawn: Meinir Ann Thomas
Dyddiad Geni: 17eg Mai 1982
Man Geni: Caerfyrddin
Teulu: Unig blentyn Eric a Mary Thomas
Addysg: Ysgol Gynradd Peniel; Ysgol Bro Myrddin; Ysgol Maes Yr Yrfa; Prifysgol Cymru Bangor.
Diddordebau: Canu, actio, cyflwyno, cyfieithu, darllen, cerdded, coginio, gwylio DVDs.
Cas Bethau: Cŵn, cathod, corynod, winwns a gyrwyr araf!
Hoff raglenni teledu: "Pobol y Cwm"; "Family Guy"; "Tipyn O Stad"; "Coronation Street"; "Friends"; "Sex And The City"; "Bewitched". Hoff Gerddoriaeth: Ryland Teifi, Geraint Roberts, Cwmni Theatr Maldwyn, Boyzone, Enrique Iglesias, Leona Lewis, Donny Osmond, Il Divo a Britney Spears.
Hoff liw: Pinc golau
Hoff fwyd: Duck Tikka Massala gyda reis plaen a peshwari naan; hwyaden mewn saws oren.
Hoff fwytai: Gwesty Pen y Baedd, Caerfyrddin; Spice UK, Y Trallwng; Quayside brasserie, Caerfyrddin.
Hoff lyfrau: 'Hogan Horni' gan Menna Medi, 'Penbleth Dynol Ryw' gan Ralph Koning (cyfieithiad gan Alun Ceri Jones), "Innocent Traitor" a "The Lady Elizabeth" gan Alison Weir a "The Boleyn Inheritance" gan Phillipa Gregory.
Fy rhaglen: Rhaglen gylchgrawn sy'n cael ei ddarlledu o 1-4 y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae'r slot swyddi, digwyddiadau lleol a'r siop fach ar fy rhaglen yn ddyddiol. Rwy'n chwarae amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg ac yn siarad a nifer o westeion am amryw o bynciau sy'n cynnwys adroddiadau o'r Eisteddfodau, meddyginiaeth, ffasiwn, coginio a thafodieithoedd. Bydd cystadlaethau'n cael eu cynnal yn ddyddiol hefyd.
Cysylltu: I gysylltu a mi, danfonwch e-bost at
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
. Hefyd, medrwch alw heibio i www.myspace.com/meinirann
|