Radio Ceredigion FM Tel:(01970) 627 999 Fax: (01970) 627206
Email: admin@ceredigionfm.co.uk



Listen Live!
Baner


Baner
Home Cyflwynwyr Meinir Ann Rysait yr Wythnos
Rysait yr Wythnos

MairMae gwreiddiau Mair Jones yn ddwfn yng nghefn gwlad Ceredigion.  Cafodd ei chodi a'i magu ar fferm Brynchwyth, Llangwyryfon.  Heb symud ymhell o'r cartref gwreiddiol, llwyr ymunodd Mair â'r gymuned leol drwy fynychu dosbarthiadau Clybiau Ffermwyr Ifainc a Sefydliad y Merched.  Yno y dysgodd, y gwrandawodd ac y sylwodd ar wahanol ryseitiau ac fe'u haddasodd i'r ford Gymreig.  Ers 1994, mae Mair wedi rhoi gwasanaeth fyddlon i wrandawyr Radio Ceredigion bob wythnos a medrwch glywed glywed ei llais a dychmygu ei gwên ar raglen Meinir Ann am 2:45 bob prynhawn dydd Mercher.

Mae llyfr 'Coginio 'Da Mair 2' nawr ar gael am bris arbennig o £5! Ffoniwch 01970 627 999 nawr i gael eich copi chi!


24/12/08 

Seidr Cynnes
2 beint o sudd afal
2 lemwn wedi eu tafellu
Ychydig o glofau
4 peint o seidr
2 goes sinamon

Dull
Rhowch y cyfan mewn sosban ar wres isel.
Gadewch iddo am 20 munud.


Panas a moron gyda phersli a menyn
2 owns o fenyn meddal
3 llond llwy fwrdd o bersli ffres wedi ei dorri’n fân
2 bwys o foron wedi eu torri’n gwarteri
1 pwys o bannas wedi eu torri’n gwarteri

Dull
Cymysgwch y menyn a’r persli a’i rolio allan yn hir.
Rhowch mewn ffoil yn yr oergell.
Berwch y pannas a’r moron am 15 munud.
Gweinwch gyda’r menyn a’r persli wedi eu tafellu’n dew.


Saws Ceirios y Wern
1 pwys o geirios y wern
3 owns o siwgr brown
Sudd 1 oren
2 llond llwy fwrdd o finegr gwin coch

Dull
Rhowch y cynnwys i gyd mewn sosban.
Dewch ag ef i’r berw.
Mudferwch tan fydd yn barod.
Gweinwch yn boeth neu’n oer.