Radio Ceredigion FM Tel:(01970) 627 999 Fax: (01970) 627206
Email: admin@ceredigionfm.co.uk



Listen Live!
Baner


Baner
Home Cyflwynwyr Mike Davies
Mike Davies
Micheal HELO! Mike Davies yw’r enw. Shwt y chi? Rwy’n cyflwyno’r rhaglen Alternative Route bob nos Sadwrn rhwng 9 a 10 gan ddod â cherddoriaeth wych, ychydig o sgwrs a thrafodaethau i chi. O’r math cywir, wrth gwrs! Iawn, dyma ychydig o wybodaeth amdana i: Cefais fy ngeni yn Aberystwyth ar y 18fed o Orffennaf 1991 yn ysbyty Bronglais. Treuliais flynyddoedd cyntaf fy mywyd ym Mronant, yna symudais i Dregaron pan oeddwn i’n 2 oed, yna symudais i Lanfarian, yna i Gomins Coch, nôl i Lanfarian, cyn symud i Benparcau lle rwy’n byw nawr. Fel y gwelwch chi, rwyf wedi symud tipyn! Mae gen i un neu ddau o hobïau, ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n troi o gwmpas cyfrifiaduron! Buaswn i’n gallu siarad am gyfrifiaduron tan ddydd y farn, ac rwy’n caru fy Nintendo DS! Rwy’n mwynhau teithio o gwmpas y deyrnas unedig, a rhyw ddydd, rwy’n gobeithio teithio o gwmpas y byd, er sai’n credu byddai’n mynd nôl i begwn y gogledd chwaith - dim ond iâ ac eira oedd yno, ar wahân i ambell garw anghyfeillgar! Ond a dweud y gwir, sai’n credu ‘na i adael Cymru. Wel, dyna’r cyfan wrtha i. Cofiwch wrando! MICHAEL! J