Radio Ceredigion FM Tel:(01970) 627 999 Fax: (01970) 627206
Email: admin@ceredigionfm.co.uk



Listen Live!
Baner


Baner
Home Cyflwynwyr Owain Phillips
Owain Phillips

OwainFy enw i yw Owain Phillips, newyddiadurwr darlledu yn yr adran newyddion yma gyda Radio Ceredigion. Rwy’n darllen y newyddion o 9 y bore tan 3 y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ogystal â chyfrannu eitemau at raglen Dros Ginio. Rwy’n wreiddiol o Gwm Gwendraeth a mynychais Brifysgol Aberystwyth, lle graddiais yng Ngwleidyddiaeth Ryngwladol gyda gradd dosbarth cyntaf yn 2008.

Yn fy amser hamdden rwy’n ddyfarnwr Pêl-droed yng nghynghrair Sir Gar, yn ogystal â dal tocyn tymor gyda thîm rhanbarthol y Gweilch. Diddordeb arall sydd gennyf yw llefaru. Bûm yn fuddugol yn y gystadleuaeth Llefaru Unigol dan 25 yr Urdd yn 2006, ac yn y gystadleuaeth Llefaru Unigol dan 25 yn yr Eisteddfod genedlaethol yn 2007 yn ogystal â chystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

Gan fy mod â diddordeb brwd yng ngwleidyddiaeth mae’r nofelau “1984” gan George Orwell a “We Wish To Inform You” gan Philip Gourevitch yn ffefrynnau wrth iddynt ddangos yr effaith y gall systemau gwleidyddol wan gael ar boblogaeth. Rwy’n gobeithio parhau yn y maes yn y dyfodol.