Radio Ceredigion FM Tel:(01970) 627 999 Fax: (01970) 627206
Email: admin@ceredigionfm.co.uk



Listen Live!
Baner


Baner
Home Ffeil Gyhoeddus
Ffeil Gyhoeddus
Mae’r ffeil gyhoeddus hon yn cynnwys manylion am yr elfennau mae Ofcom yn rheoleiddio, megis traciau cerddoriaeth, newyddion lleol, eitemau o ddiddordeb lleol ayb. Y bwriad yw rhoi gwell dealltwriaeth i chi o’n cynnyrch a’r hyn rydyn ni’n gwneud i’r gymuned leol.

1. Amserlen Bwletinau Newyddion

Mae Radio Ceredigion yn darlledu bwletinau newyddion ar yr awr o 6yb tan 12yb saith diwrnod yr wythnos.

Mae bwletinau o 6yb tan 9yb a 4yp tan 12yb yn y Saesneg.
Mae bwletinau newyddion rhwng 9yb a 3yp yn y Gymraeg ac fe geir rhaglen materion cyfoes lleol dyddiol rhwng 12yp ac 1yp gyda phenawdau’r newyddion am 12.30yp. 

Dydd Sadwrn: Bwletin newyddion Saesneg ar yr awr rhwng 6yb a 9yb, rhwng 1yp a 2yp a rhwng 6yh a 12yb.
Bwletinau newyddion Cymraeg rhwng 10yb a 12yp.

Dydd Sul: Newyddion Saesneg ar yr awr rhwng 6yb ac 8yb a rhwng 7yh a 12yb.

Mae’r bwletinau’n cynnwys cymysgedd o straeon lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ynghyd â chwaraeon a’r tywydd.

2. Straeon a Drafodwyd ar yr Awyr yn Ddiweddar:

- Cynllun Llywodraeth y Cynulliad i leihau’r defnydd o ynni carbon hyd at 90%.
- Trosglwyddiad stoc tai Cyngor Sir Ceredigion yn trosglwyddo i fudiad Tai Ceredigion.
- Caiacwyr yn derbyn beirniadaeth am blymio i lawr ochr argae Llyn Brianne.
- Marwolaeth dyn wedi tân yng Nghei Newydd.
-
Cynllun heddlu Meirionydd i leihau tor-cyfraith yn ymwneud â ffonau symudol. 

Mae pob stori a ddarlledir yn cael ei chynhyrchu’n fewnol yn Radio Ceredigion.  

3. Y Tîm Newyddion

Ceryl Davies
Owain Phillips
Ffôn. 01970 627 999
Neu e-bostiwch
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.  Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.



4. Amserlen

I weld copi o’n hamserlen ddiweddaraf CLICIWCH YMA

5. Rhaglenni Awtomataidd

10 awr rhwng 8yh a 6yb o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 6 awr rhwng 12yb a 6yb ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

6. Rhestr Chwarae’r Orsaf

I weld y rhestr chwarae ddiweddaraf CLICIWCH YMA

7. Fformat yr Orsaf

I weld fformat yr orsaf: CLICIWCH YMA

8. Sut i wneud cwyn

Os oes ganddoch chi gwyn i’w wneud ynglŷn â’r orsaf hon, yn y lle cyntaf, fe ddylech gysylltu â rheolwr yr orsaf yn y cyfeiriad isod. Os ydych chi’n anhapus â’r ymateb rydych chi wedi ei dderbyn, medrwch gwyno’n uniongyrchol i’r rheolydd, Ofcom.
Am ragor o fanylion, ewch i: http://www.ofcom.org.uk.


9. Manylion Cyswllt yr Orsaf

Rheolwr yr Orsaf Radio Ceredigion yw Eifion Williams a’n cyfeiriad yw:

Radio Ceredigion,
Yr Hen Ysgol Gymraeg,
Ffordd Alexandra,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY25 1LF

Ffôn:  01970 627 999

http://www.radioceredigion.net


10. Canllawiau Lleolrwydd Ofcom

Mae Ofcom, rheoleiddiwr y diwydiant cyfathrebu sydd â chyfrifoldebau dros radio lleol, wedi cynhyrchu canllawiau lleolrwydd y mae’r orsaf hon yn glynu wrth.I weld y manylion yn llawn, ewch i: http://www.ofcom.org.uk/radio/ifi/rbl/car/localness/

11. Ymdriniaeth neu Gefnogaeth o Ddigwyddiadau/Elusennau

Mae Radio Ceredigion yn ymroddedig i roi cyhoeddusrwydd i elusennau a sefydliadau lleol trwy ddarparu cyhoeddiadau dyddiol trwy gydol y dydd yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Elusennau mae Radio Ceredigion wedi eu cefnogi:

Ffagl Gobaith
Cyngor yr Henoed Ceredigion
Cyngor yr Henoed Gwynedd
Nyrsys McMillan
Ysbyty Bronglais, Aberystwyth
Apêl Arch Noa

Cymdeithas Lymffoma